Mae Llywodraeth Prydain yn cynnal ymchwiliad i benderfynu a ddylid rhoi mwy o rym i’r heddlu saethu brawychwyr a phobol o dan amheuaeth, yn ôl adroddiadau.
Mae pryderon ymhlith heddlu sydd â’r hawl i ddefnyddio dryllau y byddan nhw’n cael eu herlyn pe baen nhw’n lladd unigolion, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth wrth bapur newydd y Sunday Times.
Ymhlith y rhai sydd wedi mynegi pryder mae Comisiynydd Heddlu Llundain, Syr Bernard Hogan Howe, a hynny’n dilyn uwchgynhadledd i drafod cyflafan Paris.
Daw’r drafodaeth yn ystod wythnos pan gafodd plismon ei arestio a’i holi gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn dilyn marwolaeth dyn 28 o ogledd Llundain.
Cafodd Jermaine Baker ei saethu unwaith wrth i’r heddlu geisio atal carcharorion rhag cael eu rhyddhau o fan carchar.
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi mynegu pryder am y polisi ‘saethu er mwyn lladd’, gan rybuddio y gallai beryglu perthynas yr heddlu â chymunedau.
Mae lle i gredu bod Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn barod i newid y gyfraith i leihau’r tebygolrwydd o gael eu herlyn ac er mwyn cyflymu achosion llys sy’n deillio o saethu unigolion.
Dywedodd llefarydd ei bod hi’n bwysig bod yr heddlu’n cael defnyddio dryllau “gyda chefnogaeth lawn y gyfraith a’r wladwriaeth”.
Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd gan y Swyddfa Gartref, y Twrnai Cyffredinol a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac fe allai arwain at welliannau i’r Bil Plismona a Chyfiawnder.
Dywedodd Jeremy Corbyn wrth y Sunday Times: “Rhaid i ni fod yn ofalus iawn, iawn.
“Os ydych chi am i’r cyhoedd fod â hyder yn yr heddlu a hyder y gallan nhw gydweithio â nhw yn y dyfodol, mae unrhyw achos o saethu yn y stryd yn lleihau’r hyder.”
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio “nad stynt wleidyddol” mo’r ymchwiliad.