Map yn dangos lleoliad Somalia ar gorn Affrica (lllun: Wikipedia)
Mae dau o bobl wedi marw wrth i fom ffrwydro mewn car ym mhrifddinas Somalia, Mogadishu.
Dywed yr heddlu fod y car wedi ffrwydro y tu allan i ganolfan siopa yng nghanol y ddinas.
Nid oes unrhyw grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydrad, ond yr amheuon yw mai’r grŵp Islamaidd eithafol al-Shabab, sydd â chysylltiadau ag al-Qaida, sy’n gyfrifol.
Mae’r ddinas wedi gweld cyfres o ymosodiadau gan al-Shabab, sy’n ceisio annog gwrthryfel yn erbyn llywodraeth wan y wlad.
Er eu bod wedi cael eu gwthio allan o brif drefi a dinasoedd Somalia mae al-Shabab yn dal i gyflawni ymosodiadau marwol ledled y wlad.