Protest yn erbyn bomio Irac yn Llundain y llynedd (llun: Stop the War Coalition)
Mae’n ymddangos fod nifer o filwyr Irac wedi cael eu lladd mewn camgymeriad mewn ymosodiad o’r awyr gan America.

Mae byddin America’n cydnabod y gallai ymosodiad o’r awyr yn erbyn targedau’r Wladwriaeth Islamaidd ddoe fod wedi achosi marwolaeth milwyr o Irac gerllaw dinas Fallujah. Er nad yw’r fyddin yn crybwyll nifer, dywed ffynonellau eraill fod tua 10 o bobl wedi cael eu lladd.

Digwyddodd yr ymosodiad, meddai’r fyddin, mewn ymateb i geisiadau a gwybodaeth a gafwyd gan luoedd diogelwch Irac gerllaw Fallujah, sydd o dan reolaeth y Wladwriaeth Islamaidd.

Dywed Ysgrifennydd Amddiffyn America, Ash Carter, fod lle i gredu bod y ddwy ochr yn rhannol gyfrifol am y camgymeriad.

Ychwanegodd ei fod wedi ffonio prif weinidog Irac, Haider al-Abadi, i fynegi ei gydymdeimlad.