Jimmy Hill yn cyflwyno Match of the Day yn 1973 (llun: BBC/gwifren PA)
Bu farw Jimmy Hill, y cyn-bêl-droediwr a ddaeth yn un o ffigurau amlycaf rhaglenni chwaraeon y BBC.

Roedd yn 87 oed ac wedi dioddef o glefyd Alzheimer ers rhai blynyddoedd.

Er iddo wneud enw iddo’i hun fel chwaraewr dros Fulham yn yr 1950au, fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf fel cyflwynydd Match of the Day am flynyddoedd lawer.

Dywed ei deulu mewn datganiad y bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal iddo ar gyfer ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn y flwyddyn newydd.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC:

“I genedlaethau o gefnogwyr, roedd Jimmy Hill yn llais awdurdodol fel cyflwynydd a dadansoddwr.

“Roedd yn ymroddedig i arloesi ym mhob agwedd o’r gêm, gan gynnwys darlledu,  a bob amser yn credu mai’r cefnogwyr oedd yn dod gyntaf.

“Mae ei ddylanwad yn parhau yn y rhaglenni a fwynhewn heddiw.”