Simon Thomas AC (o wefan y Cynulliad)
Mae gormod o arian yn cael ei wario ar grantiau ffioedd myfyrwyr llawn-amser, yn enwedig rhai sy’n mynd i golegau y tu allan i Gymru, yn ôl Plaid Cymru.
Dywed Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar Addysg a Sgiliau, fod tua £94 miliwn yn gadael Cymru yn sgil polisi presennol y llywodraeth, a bod sefydliadau addysg uwch Cymru yn dioddef.
Mae’r sefyllfa o’r fath yn gwbl ‘anghynaliadwy’, meddai.
“Anghyfrifol fyddai cadw’r sefyllfa fel y mae a byddai llywodraeth Plaid Cymru’n dod â chynllun llawer mwy cynaliadwy i mewn,” meddai.
“Ar hyn o bryd, mae is-raddedigion traddodiadol llawn amser yn cael blaenoriaeth ar draul grwpiau eraill o fyfyrwyr.
“Mae yna bryder am y gefnogaeth i ddysgwyr rhan-amser ac i ôl-raddedigion yn y sector Addysg Uwch, ac mae arian Addysg Bellach wedi’i dorri’n sylweddol.
“Mae sicrhau cyfle am addysg ar y lefel uchaf ar ôl addysg orfodol – trwy Addysg Uwch, Addysg Bellach a phrentisiaethau – yn hanfodol ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol ac er mwyn codi lefel sgiliau yng Nghymru.”