Daw rhybuddion fod rhagor o law trwm ar ei ffordd mewn rhannau helaeth o Gymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 3 modfedd (76mm) o law ddisgyn ar dir uchel ym Mannau Brycheiniog ym Mhowys a hyd at 2.4 modfedd (60mm) o law ddisgyn mewn rhannau o Eryri.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dau rybudd llifogydd yn Sir Gaerfyrddin – un ym Mhontargothi a’r llall yn Abergwili,
Yn ogystal, mae wyth o rybuddion gwyliadwriaeth llifogydd mewn grym ar gyfer rhannau o afonydd Teifi, Gwendraeth, Llwchwr, Aman, Tywi, Cothi, Brân, Gwydderig a gwaelod dyffryn Dyfrdwy.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai pobl fod yn barod am ffyrdd yn cau wrth i’r draeniau orlewni.
“Rydym yn cynghori pobl i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio gan y gall amodau gyrru fod yn anodd, yn enwedig ar ffyrdd sydd eisoes yn brysur gyda siopwyr Nadolig,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhybuddion melyn
Yn y cyfamser, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am dywydd garw yn holl siroedd y de ac eithrio Sir Fynwy, ac yn siroedd Cumbria, Caerhirfryn a Manceinion Fwyaf.
“Yn rhannau deheuol Cymru, mae disgwyl i’r glaw trymaf ddisgwyl yn ystod y dydd heddiw, gyda rhagor dros nos,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
“Yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, mae’r cyfnod dros nos i ddydd Sul yn fwy tebygol o gael y glaw trymaf.”
Ychwanegodd fod pryder penodol am rannau o ogledd-orllewin Lloegr, lle mae’r tir yn dal yn wlyb ar ôl y llifogydd diweddar.