Dynes yn gwisgo masg i’w diogelu rhag y llygredd yn Beijing heddiw (AP Photo/Ng Han Guan)
Am yr ail waith y mis yma, mae rhybudd coch wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer Beijing wrth i fwrllwch – smog – amgylchynu’r ddinas.
Mae’r 22.5 miliwn o bobl sy’n byw ym mhrifddinas China yn dioddef llygredd cyson yn yr awyr, a chaiff rhybudd coch ei gyhoeddi pan mae disgwyl i lefelau uchel o lygredd barhau mwy na 72 awr.
Mae lefel y llygredd tua 20 gwaith yn uwch na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiogel gan Sefydliad Iechyd y Byd.
O ganlyniad i’r rhybudd, cafodd ysgolion eu gorchymyn i gau, ac mae hanner ceir y ddinas yn cael eu gwahardd bob dydd. Mae ffatrïoedd hefyd yn gorfod cyfyngu ar eu gwaith cynhyrchu.
Gorsafoedd pŵer glo, llygredd diwydiannol a’r nifer cynyddol o gerbydau sy’n cael y bai am y mwrllwch. Mae lleoliad y ddinas yn dwysáu’r broblem hefyd gan fod y mynyddoedd ar dair ochr iddi’n cadw’r mwrllwch yn isel.
Mae astudiaethau gwyddonol yn priodoli tua 1.4 miliwn o farwolaethau cynamserol pob blwyddyn neu 4,000 pob dydd i’r mwrllwch.