(llun o wefan yr heddlu)
Mae dyn 29 oed o Gaergybi wedi cael ei gyhuddo o ladrad ar ôl i wraig 72 oed ddioddef ymosodiad a lladrad ar Ffordd Kingland yn y dref yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Iestyn Davies i’r dyn gael ei gyhuddo neithiwr a’i fod wedi cael ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon heddiw.

“Dw i’n ddiolchgar am y cymorth a roddwyd gan gymuned Caergybi yn ystod yr wythnos ddiwethaf sydd wedi’n helpu ni  i wneud cynnydd sylweddol a arweiniodd at y cyhuddo,” meddai.

“Er bod dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r lladrad, hoffwn glywed oddi wrth unrhyw un a oedd o gwmpas ar y pryd, yn enwedig unrhyw un a oedd yn dyst i’r digwyddiad.”

Fe ddigwyddodd y lladrad bnawn Iau 10 Rhagfyr, ac mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod RC15163495.