Callum Williams yn ei grys Elyrch gyda Wayne Routledge a Lee Trundle (llun: PA/Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg)
Bachgen 11 oed sydd wedi colli ei ddwy droed fydd yn arwain yr Elyrch i’r cae ar Stadiwm Liberty ddydd gŵyll San Steffan.
Bu’n rhaid i Callum Williams o Bontarddulais gael llawdriniaeth i dorri ei draed yn gynharach eleni oherwydd nam cynhenid arnynt.
Mae bellach wedi gwella’n ddigon da i fod yn cerdded a chicio pêl gyda’i draed prosthetig.
Ar ôl clywed ei hanes, cafodd Callum ei ddewis gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe fel mascot ar gyfer eu gêm gartref yn erbyn West Bromwich Albion wythnos i heddiw.
Ymhlith y rhai a fu’n edrych amdano pan oedd yn Ysbyty Treforys roedd Wayne Routledge, asgellwr Abertawe, a Lee Trunde, llysgennad a hyfforddwr ieuenctid y clwb.
“Mae ei gynnydd wedi bod yn anhygoel,” meddai Routledge. “Mae Callum yn haeddu pob clod am ei nerth a’i benderfyniad i gyrraedd lle mae erbyn hyn.”
Dywedodd Callum ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gêm: “Dw i’n meddwl y bydd yr Elyrch yn ennill 3-0,” meddai.