Nigel Farage, arweinydd Ukig (llun: PA)
Mae Cadeirydd Ukip wedi beirniadu unig Aelod Seneddol y blaid am awgrymu y byddai’n well i’r arweinydd Nigel Farage roi’r gorau iddi.
Roedd Douglas Carswell wedi dweud fod angen wyneb newydd ar Ukip gan awgrymu bod y perfformiad siomedig yn is-etholiad Oldham yn dangos fod Nigel Farage wedi mynd â’r blaid cyn belled ag y gallai.
Ymateb Nigel Farage i hynny oedd y dylai Douglas Carswell gau ei geg neu ei herio’n agored am yr arweinyddiaeth.
Yn ôl cadeirydd Ukip, Steve Crowther, nid oedd sylwadau Douglas Carswell yn gwneud unrhyw les i’r blaid.
“Mae amser a lle i drafodaethau ynghylch arweinyddiaeth y blaid, ond dw i ddim yn meddwl mai ar drothwy uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd neu ar y BBC y mae gwneud hynny,” meddai.
“Cafodd y newydd hwn ei gyhoeddi ar y diwrnod yr oedden ni’n dathlu methiant llwyr y Prif Weinidog yn Ewrop.”
Dywedodd y bydd y ffrae yn cael ei thrafod mewn cyfarfod y bwyllgor gwaith cenedlaethol Ukip y mis nesaf.