Y cynllun newydd
Mae pobl Seland Newydd wedi dewis cynllun newydd i’w baner a allai ddisodli Jac yr Undeb.

Fe ddewisodd y wlad y cynllun sy’n cynnwys rhedynen i fynd yn erbyn y faner gyfredol mewn pleidlais genedlaethol wrth i’r bobol ystyried newid eu baner.

Mae’r cynllun newydd ar gefndir du a glas ac mae arni redynen arian a sêr coch. Bydd y bleidlais ar y faner newydd nawr yn cael ei chynnal ym mis Mawrth.

Mae’r rhedynen yn symbol cenedlaethol ac mae’n cael ei gwisgo gan sawl tîm chwaraeon, gan gynnwys tîm rygbi’r Crysau Duon.

Roedd dros 10,000 o gynlluniau yn y ras, gan gynnwys rhai digon rhyfedd fel y ciwi, aderyn brodorol Seland Newydd yn saethu laser gwyrdd o’i lygaid.

Mae’r cynllun buddugol wedi cael ei gynllunio gan Kyle Lockwood, cynllunydd pensaernïol a gafodd ei eni yn y brifddinas, Wellington ond sydd bellach yn byw yn Awstralia.