Mae’n debygol y bydd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn rhoi sêl bendith i gynllun tai dadleuol yn yr Hendy ger Llanelli y prynhawn ‘ma.

Mae cwmni tai Persimmon yn ceisio cael caniatâd cynllunio i godi 91 o dai ar safle ger Heol Llwynbedw.

Ond mae rhai trigolion lleol yn gwrthwynebu’r cynllun gan ddweud y bydd yn gwaethygu problemau traffig yr ardal ac yn achosi i dŵr redeg i dai eraill yn yr ardal.

‘Tanbrisio’r perygl’

Mae cynghorydd Yr Hendy, Gareth Thomas yn un o’r rhai sy’n gwrthwynebu’r cynnig gan nad yw e’n teimlo bod y safle’n ddigon diogel i adeiladu tai arno.

“Mae problemau ynglŷn â dŵr a thraffig. Dwi’n credu bod y cwmni wedi tanbrisio’r perygl,” meddai.

Yn ôl Gareth Thomas, mae problemau traffig yn yr ardal eisoes, a dydy’r ardal ddim yn gallu ymdopi â rhagor.

Mae’n honni hefyd i Persimmon ddechrau adeiladu yn yr Hydref cyn cael caniatâd cynllunio ond mae’r cwmni yn gwadu ei fod wedi torri unrhyw reolau.

Bydd y pwyllgor cynllunio yn ymweld â’r safle y bore ‘ma cyn cyfarfod am 1pm i wneud penderfyniad.