Mae’r heddlu yng Ngenefa yn chwilio am bobl sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiadau brawychol ym Mharis fis diwethaf, meddai swyddogion yn Y Swistir.

Dywedodd adran ddiogelwch Genefa eu bod nhw wedi cael gwybodaeth am “unigolion amheus yng Ngenefa neu yn ardal Genefa.”

Mae’r heddlu wedi cynyddu ei lefel o wyliadwriaeth gwrth-frawychol ac yn gweithio gydag awdurdodau rhyngwladol a chenedlaethol i ddod o hyd i’r unigolion.

Cafodd 130 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd.