Ffoaduriaid yn cyrraedd ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg
Mae Cynghrair Ffoaduriaid Cymru heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod hawliau dynol pobl sy’n byw yng Nghymru, beth bynnag yw eu statws mudo.
Daw’r alwad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol, ac yn ystod y dydd bydd y gynghrair yn cynnal digwyddiad Noddfa yn y Senedd yn adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd nifer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob cwr o’r byd, sy’n cynnwys pobl sydd wedi ffoi trais arswydus i geisio lloches yma yng Nghymru, yn rhannu eu straeon personol o flaen torf o 130 o bobl.
‘Deffro’
Dywedodd Cadeirydd Cynghrair Ffoaduriaid Cymru, Hannah Wharf: “Mae’r ffaith bod pobl wedi deffro yn ddiweddar a sylweddoli beth yw gwir sefyllfa ffoaduriaid o Syria i’w groesawu, ac mae’r ffaith y bydd y dwsinau cyntaf o ffoaduriaid o Syria yn cyrraedd Cymru’r wythnos hon yn dangos bod grym ewyllys yma yng Nghymru, ac mae pobl yn barod i fod ar flaen y gad a gweithredu. Dylem ni fod yn andros o falch o hynny.
“Ond nawr mae angen i ni ddeffro a sylweddoli beth yw sefyllfa ceiswyr lloches sydd eisoes yn byw yn ein mysg. Mae nifer fawr o geiswyr lloches yng Nghymru yn byw ar uchafswm o £5 y diwrnod ac nid oes ganddynt hawl i weithio
“Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad oes unrhyw un yn amddifad, a bod gan bob ceisiwr lloches a ffoadur fynediad at gefnogaeth arbenigol,” meddai Hannah Wharf.
‘Cenedl noddfa’
Mae’n credu fod angen annog sefydliadau, gwasanaethau, awdurdodau lleol a chymunedau ledled Cymru i groesawu a gwerthfawrogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ychwanegodd: “Wrth wneud hynny, a chymryd camau eraill megis annog cefnogaeth i wneud Cymru’n Genedl Noddfa, ac ymrwymo i ddarparu strategaeth fudo gynhwysfawr, gall Llywodraeth Cymru gamu tuag at wireddu’r freuddwyd o wneud Cymru yn Genedl Noddfa gynta’r byd.”
Stori bersonol
Daeth Aliya Kahlil sy’n 51 oed i Gymru fel ceisiwr lloches o Baghdad yn Irac yn 2008 ac mae bellach yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth i Ffoaduriaid yn Abertawe.
Dywedodd Aliya Kahlil fod grwpiau wedi ei chynorthwyo pan ddaeth i Brydain yn gyntaf, “Roeddwn i a fy nheulu yn teimlo’n unig ar y dechrau, ond yna nes i gyfarfod dwy ddynes o Grŵp Cefnogi Ceiswyr Lloches ym Mae Abertawe, a gwnaethon nhw fy annog i ddod i sesiynau galw mewn, ac wedyn doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i ar fy mhen fy hun.
“Ar ôl hynny nes i ddechrau gwirfoddoli gyda gwahanol sefydliadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Roeddwn i’n teimlo wedyn fy mod i’n rhan o gymuned ac yn gallu cyfrannu hefyd.”
Mae Ailya Kahlil yn annog ffoaduriaid i wneud ymdrech, fel yr eglurodd: “Mi faswn i yn dweud wrth ffoaduriaid o Syria sy’n dod i Gymru: peidiwch â bod ar wahân, gwnewch ymdrech i drio bod yn rhan o’r gymuned. Mae pobl Cymru yn gyfeillgar. Dysgwch Saesneg cyn gynted a gallwch chi oherwydd dyma’r ffordd hawsaf i ddod yn rhan o’r gymuned.”
Trafodaeth
Bydd trafodaeth banel rhwng cynrychiolwyr o’r pedair plaid wleidyddol hefyd yn rhan o’r digwyddiad, er mwyn trafod beth yw’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu Cymru wrth groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Y siaradwyr ar y panel fydd John Griffiths AC Llafur, William Powell AC Democratiaid Rhyddfrydol, Ian Johnson, Uwch Gynghorydd Polisi Plaid Cymru, a Ross England, darparu ymgeisydd cynulliad ar gyfer Bro Morgannwg.