Bydd yr Arlywydd Joe Biden yn traddodi ei araith gyntaf ar Gyflwr yr Undeb ar 1 Mawrth – ychydig dros flwyddyn ers iddo gychwyn yn ei swydd.

Dyma’r hwyraf i unrhyw arlywydd draddodi araith Cyflwr yr Undeb, sydd fel arfer yn digwydd ym mis Ionawr ac weithiau ym mis Chwefror. Mae argyfwng Covid y wlad ymhlith y ffactorau sy’n gyfrifol am yr oedi eleni.

Daeth cadarnhad fod llefarydd y Tŷ, Nancy Pelosi, wedi anfon gwahoddiad ffurfiol ato i annerch y Gyngres a phobl America ar 1 Mawrth.

Er iddo annerch sesiwn ar y cyd o’r Gyngres ym mis Ebrill y llynedd, nid yw araith ym mlwyddyn gyntaf arlywydd yn cyfrif fel anerchiad Cyflwr yr Undeb swyddogol.

Cafodd yr araith Cyflwr yr Undeb ddiwethaf ei thraddodi gan y cyn-arlywydd Donald Trump ddiwrnod cyn i’r Senedd bleidleisio yn erbyn ei uchel-gyhuddo fis Ionawr y llynedd.