Mae o leiaf 22 o bobl wedi cael eu lladd mewn eira trwm yn Pacistan.

Roedden nhw wedi cael eu dal yn eu ceir wrth i’r tymheredd ostwng i minws 8 ger tref Murree, cyrchfan fynyddig i’r gogledd o Islamabad.

Yn ôl yr heddlu, roedd y mwyafrif wedi marw o hypothermia.

Fe fu’n rhaid tynnu miloedd o gerbydau o’r eira ac roedd mil yn dal yn sownd y bore yma ar ôl i bedair troedfedd o eira ddisgyn dros nos.

Mae Murree yn gyrchfan wyliau gaeaf boblogaidd sy’n denu mwy na miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae strydoedd sy’n arwain i’r ddinas yn aml yn cael eu rhwystro gan eira.