Mae gwleidyddion ar draws y pleidiau wedi talu teyrngedau i AS Llafur a chyn-undebwr llafur poblogaidd ac uchel ei barch a fu farw’n frawychus o sydyn ddoe.
Roedd Jack Dromey wedi cynrychioli Birmingham Erdington ers 2010, ac wedi siarad yn y senedd ddydd Iau.
Cyn iddo ddod yn AS roedd yn amlwg fel undebwr llafur a gwasanaethodd fel dirprwy ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Unite. Roedd yn 73 oed ac yn briod â’r gwleidydd amlwg Harriet Harman ers 1982.
“Roedd Jack yn cael ei gydnabod am ei benderfyniad i sefyll dros ei etholwyr ac roedd yn uchel ei barch a phoblogaidd ymysg pawb yn y senedd,” meddai Syr Keir Starmer.
Yn ôl y cyn-brif weinidog Syr Tony Blair, roedd Jack Dromey yn “un o hoelion wyth y mudiad llafur a’r undebau llafur”.
“Roedd hefyd yn hynod o hoffus, yn gydweithiwr poblogaidd iawn ac yn cael ei barchu gan bawb a oedd yn weithio gydag ef,” meddai.
Mewn trydariad, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:
“Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Jack Dromey AS. Dw i’n cydymdeimlo gyda Harriet a’r teulu, a phawb a oedd yn ei adnabod fel ffrind. Boed iddo orffwys mewn hedd.”