Oscar Pistorius
Mae Llys Apêl yn Ne Affrica wedi dyfarnu bod Oscar Pistorius yn euog o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp.
Yn dilyn apêl, mae’r dyfarniad gwreiddiol o ddynladdiad wedi cael ei wyrdroi.
Roedd yr athletwr Paralympaidd wedi lladd Reeva Steenkamp ym mis Chwefror 2013 ar ôl ei saethu pedair gwaith drwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartref.
Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar y llynedd am ddynladdiad Reeva Steenkamp.
Ar ôl treulio blwyddyn o’i ddedfryd dan glo, cafodd ei ryddhau ym mis Hydref a’i symud i dŷ ei ewythr, lle mae wedi’i gyfyngu am weddill ei ddedfryd.
Ond yn dilyn y dyfarniad heddiw fe allai Pistorius wynebu 15 mlynedd dan glo. Fe fydd yn gorfod dychwelyd i’r llys i wynebu dedfryd newydd.