David Cameron
Fe fydd y Prif Weinidog yn teithio i Fwlgaria heddiw fel rhan o’i ymdrech i ddiwygio perthynas Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i David Cameron gwrdd â Phrif Weinidog Bwlgaria Boyko Borissov a’r Arlywydd Rosen Plevneliev ar gyfer trafodaethau yn y brifddinas Sofia er mwyn pwyso’r achos am ddiwygiadau.
Daw’r trafodaethau cyn cyfarfod tyngedfennol gydag arweinwyr yr UE yn ddiweddarach y mis hwn pan fydd David Cameron yn gobeithio am gytundeb.
Serch hynny mae llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk wedi dweud y bydd hynny’n “anodd iawn.”