Yr Arlywydd Barack Obama
Mae 14 o bobol wedi cael eu saethu’n farw ar ôl i ddynion arfog eu saethu yn ystod cinio Nadolig mewn canolfan gwasanaethau cymdeithasol i bobol anabl yng Nghaliffornia.
Mae 13 person arall wedi cael eu cludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Tua phedair awr yn ddiweddarach, cafodd dyn a dynes, sy’n cael eu hamau o fod yn rhan o’r ymosodiad, eu saethu’n farw gan yr heddlu.
Mae trydydd person gafodd ei weld ger y safle yn cael eu cadw yn y ddalfa ond nid yw’n glir os oedd yn gysylltiedig â’r ymosodiad.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd wedi ysgogi’r ymosodiad, gyda’r heddlu yn dweud y gallai fod yn ymosodiad brawychol.
Mae’r dyn a gafodd ei ladd gan yr heddlu, sy’n cael ei amau o gynnal yr ymosodiad, wedi cael ei enwi fel Syed Farook.
Cafwyd hyd i ddyfais ffrwydrol yn y ganolfan a chafwyd hyd i ddrylliau yng nghar y dyn a’r ddynes gafodd eu lladd.
Barack Obama yn galw ar ei wlad i weithredu
Dywedodd Arlywydd America, Barack Obama ei fod yn rhy gynnar i wybod beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad ond galwodd ar y wlad i gymryd camau i leihau ymosodiadau tebyg yn y dyfodol a chyflwyno cyfreithiau gynnau llymach.
“Yr hyn rydym yn gwybod yw bod gennym batrwm o ymosodiadau gynnau ar raddfa fawr yn y wlad hon sydd ddim yn debyg i unrhyw le arall yn y byd,” meddai.
“Ac mae ‘na rai camau y gallwn eu cymryd, nid i ddileu pob un o’r ymosodiadau hyn, ond i geisio sicrhau na fyddan nhw’n digwydd mor aml.”