Awyren Tornado
Mae awyrennau Tornado’r Llu Awyr wedi cynnal yr ymosodiadau cyntaf yn Syria, oriau’n unig ar ôl i Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid ehangu cyrchoedd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod pedair awyren Tornado, yn cludo bomiau a thaflegrau, wedi gadael safle’r Awyrlu yn Akrotiri yng Nghyprus i Syria.

Yn ôl adroddiadau, meysydd olew yn nwyrain Syria gafodd eu targedu.

Dywed  y Weinyddiaeth Amddiffyn bod eu dadansoddiad cychwynnol o’r cyrchoedd awyr yn Syria “yn awgrymu eu bod yn llwyddiannus.”

‘Y penderfyniad cywir’

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod ASau wedi “gwneud y penderfyniad cywir i gadw’r DU yn ddiogel” ar ôl i fwyafrif clir bleidleisio o blaid ehangu’r gweithredu milwrol ar gadarnleoedd IS yn Irac i Syria.

Roedd 397 wedi pleidleisio o blaid a 223 yn erbyn – gan roi mwyafrif o 174 i’r Llywodraeth.

Roedd 66 o ASau Llafur, gan gynnwys Hilary Benn, Tom Watson a Chris Bryant, wedi cefnogi’r Llywodraeth – gan fynd yn groes i’w harweinydd Jeremy Corbyn.

‘Methu ein hargyhoeddi’

Fe bleidleisiodd tri AS Plaid Cymru, Hywel Williams, Jonathan Edwards a Liz Saville Roberts yn erbyn cyrchoedd awyr Prydain yn Syria.

Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS:

“Mae’n rhaid trechu Daesh (IS), rhoi terfyn ar eu teyrnasiaeth greulon dros bobl yn Syria ac Irac, a niwtraleiddio’r bygythiad maent yn ei beri i wledydd eraill.

“Mae’r Prif Weinidog wedi methu ein hargyhoeddi y byddai ei gynllun ar gyfer ymyrraeth yn cyflawni hynny, a chadarnhawyd hyn gan siaradwr ar ôl siaradwr yn y ddadl heddiw.

“O’r cychwyn, mae Plaid Cymru wedi amlinellu ein gwrthwynebiad clir i gynlluniau’r Prif weinidog, ac wedi dangos fod ffyrdd amgen rhesymol, cyfrannol ac effeithiol o ddiraddio ac, yn y pen draw, trechu Daesh.

“Safwn yn gadarn wrth y gred hon ac ystyriwn benderfyniad y Senedd i fod yn destun edifeirwch.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i herio a chraffu gweithredoedd y Llywodraeth wrth iddynt lansio ac yna asesu effaith y cyrchoedd awyr hyn.

“Byddwn yn parhau i ymgyrchu o blaid y camau a gafodd eu hargymell gennym gan gynnwys cefnogaeth i’r Peshmerga, datrys y cwestiwn Cwrdaidd, atal arian ac arbenigedd rhag cyrraedd Daesh, a pharhau ag ymdrechion diplomyddol yn sgil proses Fienna.”

Obama yn croesawu

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama wedi croesawu’r bleidlais gan ddweud bod IS yn “fygythiad rhyngwladol sy’n rhaid ei drechu drwy ymateb rhyngwladol.”