Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid gweithredu filwrol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria yn dilyn dadl yn y Senedd heddiw.

Fe bleidleisiodd 397 o blaid a 223 yn erbyn ehangu’r cyrchoedd awyr yn Irac i Syria – gan roi mwyafrif clir i’r Llywodraeth o 174.

Mae awyrennau milwrol Prydain yn paratoi i ddechrau ymosodiadau awyr yn Syria nos yfory.

Mewn dadl a barodd am 10 awr, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod IS yn “cynllwynio i’n lladd a radicaleiddio ein plant ar hyn o bryd” wrth gyflwyno’i achos dros gynnal ymosodiadau ar gadarnleoedd y grŵp eithafol yn Syria.

Dadleuodd yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn y byddai’r ymosodiadau awyr yn “anochel yn arwain at farwolaethau pobol ddiniwed”, ac fe gyhuddodd Cameron o gynnal pleidlais cyn bod y cyhoedd yn mynegi eu gwrthwynebiad.

Mae’r ddadl wedi achosi rhwyg o fewn y Blaid Lafur gyda’r rhai oedd yn cefnogi’r Llywodraeth yn honni eu bod nhw wedi cael eu bwlio a’u bygwth gan rai aelodau o’r blaid.

Wrth gloi’r ddadl cafodd llefarydd tramor yr wrthblaid Hilary Benn gymeradwyaeth brwd gan y Tŷ.

Y tu allan i Dy’r Cyffredin fe fu miloedd o brotestwyr sy’n gwrthwynebu’r cyrchoedd awyr yn galw ar David Cameron i “beidio bomio Syria.”