Rhodri Jones, Heilin Thomas, Rhys Williams
Tîm y Cyn-gystadleuwyr, sy’n cynnwys ffermwyr o bob cwr o Gymru, sydd wedi ennill y gyfres ‘Fferm Ffactor’ ar S4C eleni.

Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi nos Lun gan y cyflwynydd Ifan Jones Evans mewn seremoni arbennig yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, a hynny wedi wyth wythnos o gystadlu caled.

Trechodd y Cyn-gystadleuwyr Dîm Gareth o Ynys Môn yn y rownd derfynol.

Aelodau’r tîm oedd Rhodri Jones o Lanuwchllyn, Rhys Williams o Dywyn ger Aberdyfi a Heilin Thomas o Landysul.

Roedd capten y tîm Rhodri, 37, sy’n rhedeg fferm cig eidion a defaid yn Llanuwchllyn, yn gystadleuydd yn y gyfres gyntaf erioed yn 2009, ac mae wrth ei fodd bod ei dim wedi cyrraedd y brig.

Dywedodd: “Allith o’m bod yn ddim byd ond teimlad arbennig. Roedd rhaid i ni ennill y tro yma. Mae o wedi profi bo ni ddim cweit mor sâl ag oedd pobol yn ei feddwl a does neb wedi colli ddwywaith ar Fferm Ffactor!”

Cyrhaeddodd Rhys, 36, sy’n rheoli fferm gig eidion a defaid 700 erw yn Nhywyn, y rownd cyn derfynol yn 2013. Ond nid oedd hynny wedi tawelu’r nerfau cyn y rownd derfynol.

“Ro’n i’n nerfus trwy’r dydd cyn i ni glywed pwy oedd wedi ennill ond mi aeth hi’r ffordd iawn i ni. Roedd tîm Gareth yn dda iawn ond roedden ni wedi clicio fel tîm a gan bod y tri ohono ni wedi cystadlu o’r blaen, doedd yr un ohono ni eisiau colli’r tro yma.”

Cyrhaeddodd Heilin, 28, y rownd cyn derfynol yn 2011. Mae e’n gweithio ar fferm deuluol sy’n ffermio defaid a cig eidion yng Ngheredigion.

“Dyw e ddim wedi sinco mewn to,” ychwanega Heilin. “Ond fi mor falch bo ni wedi dod mas ohono fe gyda’r teitl.”

Heriau

Daeth cyfle olaf i greu argraff ar y beirniaid – Richard Tudor, Wyn Morgan, Caryl Gruffydd Roberts, Dai Miles a Gwyn Howells – cyn i’r enillwyr gael eu cyhoeddi.

Mae’r enillwyr wedi ennill Isuzu D-Max Yukon newydd sbon gwerth dros £20,000 ac yswiriant am ddim am flwyddyn gan Wasanaethau Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru.

Dywedodd cynhyrchydd a chyfarwyddwr y gyfres, Siwan Haf: “Llongyfarchiadau i’r holl dimau fu yn rhan o’r gyfres a diolch yn fawr iawn i bawb fu ynghlwm a chyfres lwyddiannus arall.

“Edrychaf ymlaen at dderbyn enwau timau ar gyfer y gyfres nesaf – ewch i www.s4c.cymru/ffermffactor am fanylion llawn.”