Dywed Boris Johnson y dylai cwymp Ymerodraeth Rhufain ganrifoedd yn ôl fod yn rhybudd i’n byd ni heddiw gymryd bygythiad newid hinsawdd o ddifrif.
Fe fydd y Prif Weinidog yn annerch uwch-gynhadledd y G20 yn Rhufain heddiw (dydd Sadwrn 30 Hydref) wrth i economïau mwyaf y byd baratoi ar gyfer cynhadledd Cop26 a fydd yn cychwyn yn Glasgow ddydd Llun.
“Pan fo pethau’n dechrau mynd o chwith, gallant fynd o chwith yn frawychus o gyflym,” meddai.
“Fe welsoch chi hynny gyda dirywiad a chwymp Ymerodraeth Rhufain ac mae gen i ofn y gallwn ni, os na lwyddwn i daclo newid hinsawdd yn iawn, weld ein gwareiddiad ni, ein byd ni, hefyd yn mynd at yn ôl.
“Fe allen ni dynghedu cenedlaethau’r dyfodol i fywyd llawer llai dymunol na’n bywydau ni. Fe allen ni dynghedu ein plant, ein hwyrion, ein gorwyrion, i fywyd o ymfudiadau anferth a phrinder bwyd, dwr, a rhyfeloedd, yn cael ei achosi gan newid hinsawdd.
“Does dim amheuaeth o gwbl fod hyn yn realiti sy’n rhaid inni ei wynebu.”
Y G20 yn ‘allweddol’
Dywedodd llefarydd swyddogol ar ran y Prif Weindog y bydd penderfyniadau gwledydd y G20 yn gwbl allweddol i’r hyn fydd yn digwydd yn Glasgow yr wythnos nesaf.
“Mae llwyddiant Cop26 yn dal yn y fantol,” meddai. Mae gormod o wledydd yn gwneud rhy ychydig.
“Fel y gwledydd sy’n cyfrannu fwyaf – yn hanesyddol ac ar hyn o bryd – at gynhesu byd-eang, mae G20 yn cynnig yr allwedd i weithredu byd-eang.
“Ddydd Llun bydd arweinwyr y G20 yn dod wyneb yn wyneb â gwledydd tlotach sy’n dioddef effeithiau newid hinsawdd a bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn atebol am eu gweithredoedd.”