Mae arlywydd Ffrainc wedi beirniadu agwedd llywodraeth Prydain wrth i’r ffrae ynghylch hawliau pysgota ddwysáu rhwng y ddwy wlad.
Daw hyn wrth i Ffrainc fygwth gwahardd llongau Prydeinig o’i phorthladdoedd os na fydd anghydfod ynghylch diffyg trwyddedau i gychod bach o Ffrainc bysgota yn nyfroedd Prydain yn cael ei ddatrys.
Mewn cyfweliad gyda’r Financial Times, dywed yr arlywydd Emmanuel Macron:
“Pan ydych chi’n treulio blynyddoedd yn trafod cytundeb ac yna mewn ychydig fisoedd yn mynd yn groes i’r hyn a gytunwyd, nid yw’n arwydd da o’ch hygrededd.”
Yn y cyfamser, mae prif weinidog Ffrainc, Jean Castex, wedi ysgrifennu at lywydd y Comisiwm Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, i ofyn am gefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn Prydain.
Yn ôl Jean Castex, dylai’r Undeb Ewropeaidd “ei gwneud yn glir fod yn rhaid i Brydain gydymffurfio â’r hyn wedi wedi cytuno i’w wneud, a bod gadael yr Undeb yn fwy niweidiol nag aros ynddo.”
Ar y llaw arall dywed Boris Johnson ei fod “mewn dryswch ynghylch beth sy’n mynd ymlaen” ac y bydd yn gwneud “beth bynnag fo’i angen i sicrhau buddiannau Prydain”.