Mae’r ffederasiwn undebau llafur TUC Cymru wedi galw am well cyflogau ac amgylchiadau gweithio i weithwyr nos.

Yn ôl dadansoddiad gan y corff, mae un ymhob tri o’r 171,000 o’r holl weithwyr nos yng Nghymru yn ennill llai na £10 yr awr, er gwaetha’r risgiau cynyddol o gael clefyd y galon, diabetes, neu iselder wrth wneud hynny.

Fe ddangosodd yr ymchwil hefyd bod gweithwyr allweddol ddwywaith yn fwy tebygol o weithio dros nos na gweithwyr eraill.

Roedd 16% o weithwyr allweddol yn gweithio oriau dros nos, o’i gymharu â 8% weithwyr eraill, gyda gweithwyr gofal cymdeithasol fwyaf tebygol o bob proffesiwn o weithio shifftiau nos.

Teithio yn y nos

Mae’n debygol fod perygl cynyddol i weithwyr, yn enwedig menywod, sy’n teithio i’r gwaith yn hwyr yn y nos, gyda risg uwch o ddioddef ymosodiadau neu aflonyddu.

Mae’r TUC yn rhybuddio bod y gweithwyr hyn sydd yn gweithio dros nos “wedi eu tanbrisio,” ac ar gyflogau isel a chontractau ansefydlog.

Maen nhw’n galw ar gyflogwyr i ystyried y peryglon i ddiogelwch a chymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch gweithwyr sy’n teithio yn y nos.

‘Cadw’r wlad i redeg tra ein bod yn cysgu’

Roedd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC yng Nghymru, yn atseinio’r alwad honno am fwy o gefnogaeth i weithwyr nos.

“Mae gweithio drwy’r nos yn anodd – gyda gweithwyr nos mewn mwy o berygl o broblemau iechyd ac aflonyddu ar eu bywydau o ddydd i ddydd,” meddai.

“Mae pob un ohonom yn ddyledus iawn i weithwyr nos Cymru am gadw’r wlad i redeg tra ein bod yn cysgu.

“Dydy hi ddim yn iawn fod cymaint o’r rhai sy’n gweithio dros nos – yn enwedig mewn sectorau allweddol fel gofal – ar gontractau ansicr a chyflogau isel.

“Rhaid i ni sicrhau bod gweithwyr drwy’r nos yn cael eu trin ag urddas yn y gwaith. Mae hynny’n golygu lefelu amodau gwaith a chyflogau a sicrhau bod pobl yn cael rhybudd priodol o’u sifftiau.

“Ac mae’n golygu cynnydd ar unwaith yn yr isafswm cyflog i £10 yr awr – a fyddai o fudd i ddwy filiwn o weithwyr allweddol – a chytundebau teg ar draws sectorau, sydd yn rhoi taliadau teg i’r rhai sy’n gweithio wedi nos.”