Mae dyfalu cynyddol am gyflwr iechyd y Frenhines Elizabeth II, sy’n 95 oed.
Daw hyn wrth iddi dynnu’n ôl o ddigwyddiadau allweddol ar ôl i feddygon ei chynghori i orffwyso am bythefnos arall.
Yr wythnos nesaf, bydd yn colli uwch-gynhadledd y Cop26 yn Glasgow, un o’r cynadleddau rhyngwladol mwyaf ers blynyddoedd. Fe ddaeth i’r amlwg hefyd na fydd y Frenhines yn mynd i’r cyngerdd blynyddol yn y Royal Albert Hall i gofio lladdedigion y ddau ryfel byd – achlysur nad yw prin wedi’i golli yn y 70 mlynedd ddiwethaf.
Er hyn, ei bwriad o hyd yw mynd i wasanaeth Sul y Cofio fore Sul 14 Tachwedd yn Whitehall. Pe na bai’n llwyddo i wneud hynny, byddai ei habsenoldeb yn debygol iawn o gael ei ddehongli fel achos o bryder difrifol.
Dechreuodd y dyfalu am ei chyflwr ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf pan fu’n rhaid iddi ganslo ymweliad â Gogledd Iwerddon. Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach iddi dreulio’r noson mewn ysbyty yn Llundain.
Mae ei phenderfyniad i barhau’n Frenhines hyd at ddiwedd ei hoes yn hytrach nag ymddeol yn rhywbeth sydd wedi cael ei ailadrodd yn gyson. Er hyn gallai gwaeledd a fyddai’n ei rhwystro rhag cyflawni gofynion ei swydd godi cwestiynau o’r newydd am swyddogaeth a hygrededd brenhiniaeth Lloegr.