Mae gobaith y bydd Cymru’n elwa ar fuddsoddiad o £160 miliwn gan lywodraeth Prydain mewn adeiladu ffermydd gwynt a fydd yn nofio ar wyneb y môr.

Yn wahanol i dyrbinau gwynt arferol sydd wedi eu hangori i’r wely’r môr, mae’r ffermydd newydd yn cael eu clymu gan raffau, fel bod modd eu gosod mewn dyfroedd dyfnach lle mae’r gwyntoedd yn gryfach.

Bydd datblygwyr a gweithgynhyrchwyr yn gallu gwneud cais am gyfran o’r cyllid sydd wedi ei fwriadu’n bennaf ar gyfer Cymru a’r Alban.

Fe wnaeth y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Boris Johnson i gyd-fynd ag uwchgynhadledd hinsawdd Cop26 yn Glasgow, lle bydd y pwyso ar arweinwyr gwledydd y byd i weithredu yn erbyn cynhesu byd-eang.

Dywedodd Ysgrifennydd Busnes ac Ynni Llywodraeth Prydain, Kwasi Kwarteng:

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu denu mwy o gefnogaeth y sector preifat i greu miloedd o swyddi da wrth gynhyrchu ynni glân.

“Ffermydd gwynt ar wyneb y môr yw’r allwedd i fanteisio ar yr adnodd ynni gwynt anhygoel sydd gennym ym Mhrydain, yn enwedig yn y dyfroedd dyfnion o amgylch arfordiroedd Cymru a’r Alban.”

Cafodd y fferm wynt gyntaf o’r math hwn ei hadeiladu oddi ar arfordir Swydd Aberdeen a dechreuodd gynhyrchu trydain yn 2017.