Mae disgwyl i lythyr a gafodd ei ysgrifennu gan yr arweinydd Comiwnyddol o Tsieina, Mao Zedong yn gofyn i Brif Weinidog Prydain, Clement Attlee i gynnig cefnogaeth i’w wlad gael ei werthu am o leiaf £100,000 mewn ocsiwn.
Cafodd y llythyr, a gafodd ei ysgrifennu ar Dachwedd 1, 1937, ei lofnodi gan Mao.
Hwn oedd y llythyr cyntaf a gafodd ei anfon gan yr arweinydd Comiwnyddol at unrhyw wleidydd yn y Gorllewin.
Cafodd ei ysgrifennu yn rhanbarth Yan’an yng ngogledd orllewin Tsieina, oedd yn bencadlys i’r Comiwnyddion yn dilyn ymosodiad gan Siapan.
Mae’r llythyr yn galw am gymorth llywodraeth Prydain yn y frwydr yn erbyn eu cymdogion.
Dywedodd Mao yn y llythyr: “Gofynnwn yn arbennig i chi roi cefnogaeth eich plaid i unrhyw fesurau o gymorth ymarferol i Tsieina a allai gael ei threfnu ym Mhrydain.
Hwn yw’r ail lythyr gan Mao i ymddangos ar restr ocsiwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd yr ocsiwn yn cael ei gynnal yn Sotheby’s ar Ragfyr 15.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Sotheby’s fod y llythyr yn enghraifft gynnar o “ddiplomyddiaeth ryngwladol” a’i fod yn enghraifft brin o lofnod Mao.