Llun o'r ymosodiad (PA)
Daeth cadarnhad bod y dyn sy’n cael ei amau o arwain yr ymosodiadau ym Mharis nos Wener wedi cael ei ladd mewn cyrch gan yr heddlu ddoe.

Y gred yw bod y jihadydd o wlad Belg, Abdelhamid Abaaoud, 27 oed, wedi arwain a threfnu’r gyflafan yn y ddinas a laddodd 129 o bobol.

Roedd arbenigwyr fforensig yn archwilio’r corff i geisio cadarnhad yn dilyn cyrch ar fflat yn ardal ogleddol Paris, Saint-Denis.

Mewn datganiad, fe gadarnhaodd swyddfa erlynydd Paris bod Abdelhamid Abaaoud wedi marw yn ystod y cyrch a bod ei gorff wedi cael ei adnabod drwy samplau croen.