Chris Bryant (o'i wefan swyddogol)
Mae Aelod Seneddol y Rhondda wedi ymosod ar fwriad y Llywodraeth i dalu £10 miliwm am awyren ar gyfer y Prif Weinidog ac aelodau pwysica’r Cabinet.

Fe fu Chris Bryant yn gwawdio’r Prif Weinidog mewn sesiwn cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin gan ei alw’r awyren yn ‘Call Me Dave Airways’.

Fe ymosododd hefyd ar y cyn-lefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Chris Grayling, gan ddweud ei fod wedi gwrthwynebu awyren swyddogol pan oedd Tony Blair yn Brif Weinidog.

“Beth yn union sydd wedi newid?” meddai.

Grayling yn ateb

Y gwahaniaeth, meddai Chris Grayling, oedd fod Llafur eisiau gwario £100 miliwn ar ddwy awyren newydd yn hytrach nag addasu awyren ail-law.

“Dyna’r gwahaniaeth rhwng ein dwy blaid,” meddai, “maen nhw’n gwario, gwario, gwario, ac r’yn ni’n sicrhau gwerth i’r trethdalwr”.