Yr Assemblee Nationale ym Mharis (CCA 3.0)
Mae Prif Weinidog Ffrainc, Manuel Valls, wedi rhybuddio y gallai brawychwyr Islamaidd ddefnyddio arfau cemegol neu fiolegol.

Fe roddodd ei rybudd mewn dad yn senedd y wlad wrth alw am ymestyn cyfnod o argyfwng cenedlaethol am dri mis ychwanegol ar ôl ymosodiadau nos Wener ym Mharis.

Er hynny, wnaeth e ddim rhoi manylion am y dystiolaeth y tu cefn i’r rhybudd wrth alw am ragor o rymoedd hefyd i ddelio gyda brawychwyr.

“Mae brawychiaeth wedi taro Ffrainc, nid oherwydd yr hyn mae hi’n ei wneud yn Irac a Syria, ond oherwydd yr hyn ydy o,” meddai Manuel Valls.

Llywodraeth Belg yn gweithredu

Yng Ngwlad Belg, ble roedd llawer o’r ymosodwyr yn byw, fe ddywedodd prif weinidog y wlad, Charles Michel fod pecyn o fesurau gwrth-frawychu wedi eu cyflwyno, gyda £280 miliwn wedi’i glustnodi i ehangu’r frwydr.