Arestio dyn wedi cyrch yn Saint-Denis, Paris bore ma
Cafodd dau o bobl eu lladd a saith eu harestio ar ôl i blismyn arfog gynnal cyrch ar fflat ym Mharis bore ma.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Ffrainc bod y cyrch yn ardal Saint-Denis bellach wedi dod i ben ar ôl saith awr.

Roedd hunan-fomwraig, a oedd  wedi ffrwydro fest yn llawn bomiau yn ystod y cyrch, yn un o’r ddau fu farw.

Dywedodd swyddog yr heddlu eu bod nhw’n credu bod Abdelhamid Abaaoud o Wlad Belg yn y fflat ynghyd a phum person arfog arall.

Mae Abaaoud, 27, yn cael ei amau o gynllwynio’r ymosodiadau yn y brifddinas pan gafodd 129 o bobl eu lladd nos Wener ddiwethaf.

Roedd degau o blismyn arfog wedi mynd i mewn i’r adeilad yn oriau man y bore ma a chlywyd gynnau’n cael eu tanio a nifer o ffrwydradau.

Cafodd pedwar o blismyn eu hanafu yn ystod y cyrch.

Roedd yr heddlu wedi arestio tri o bobl yn y fflat a chafodd dyn a dynes eu harestio gerllaw, meddai’r llefarydd.

Fe fu’r Arlywydd Francois Hollande yn cynnal cyfarfod brys ym Mhalas Elysee bore ma i fonitro’r cyrch.

Cafodd trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal ei atal ac ni fydd ysgolion yn y dref yn agor heddiw.