Mae gweinidog cartref yr Almaen wedi mynnu bod yr awdurdodau wedi gwneud y penderfyniad iawn yn canslo gêm bêl-droed ryngwladol neithiwr oherwydd bygythiad brawychol.
Cafodd y gêm gyfeillgar rhwng yr Almaen a’r Iseldiroedd ei gohirio ar fyr rybudd am 6.00yh, llai na dwy awr cyn y gic gyntaf, ar ôl rhybudd y gallai gael ei dargedu gan frawychwyr.
Roedd ffrwydradau eisoes wedi digwydd y tu allan i’r Stade de France nos Wener yn ystod gêm rhwng Ffrainc a’r Almaen fel rhan o’r ymosodiadau ym Mharis y noson honno.
Cafodd o leiaf 129 o bobl bellach eu lladd yn dilyn yr ymosodiadau, gyda llawer mwy wedi’u hanafu.
Canu La Marseilles
Dywedodd gweinidog cartref yr Almaen Thomas de Maiziere nad oedd yn gallu rhoi manylion am y bygythiad brawychol achosodd i gêm yr Almaen gael ei chanslo, gan fynnu y byddai’n rhaid i’r cyhoedd “ymddiried” fod y penderfyniad yn un cywir.
Roedd disgwyl rhyw 40,000 o gefnogwyr gan gynnwys Canghellor yr Almaen Angel Merkel yn y gêm yn Hannover.
Roedd gêm gyfeillgar ryngwladol arall rhwng Gwlad Belg a Sbaen ym Mrwsel eisoes wedi cael ei chanslo oherwydd y bygythiad brawychol.
Ond fe gafodd gêm rhwng Lloegr a Ffrainc yn Wembley ei chwarae neithiwr gyda phresenoldeb heddlu sylweddol, gyda’r dorf gyfan yn canu anthem y Ffrancwyr La Marseilles er mwyn talu teyrnged i’r rheiny fu farw.