Mae Ffrainc wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd IS yn Raqqa yn Syria unwaith eto.

Daw’r ymosodiad gan awyrennau di-beilot ddyddiau’n unig ar ôl i IS gyd-lynu ymosodiadau ar ddinas Paris gan ladd o leiaf 129 o bobol.

Fe ddigwyddodd y cyrchoedd  awyr yn gynnar bore ‘ma, gan ddinistrio safle rheoli a gwersyll hyfforddi’r grŵp eithafol, yn ôl llefarydd milwrol Ffrainc, Gilles Jaron.

Fe wnaeth Ffrainc ddechrau cynnal cyrchoedd o’r awyr ar Raqqa nos Sul ac mae’r Arlywydd, Francois Hollande, wedi galw am gryfhau’r ymdrech ryngwladol yn erbyn IS.

“Fe fyddwn yn dinistrio IS,” meddai ddoe wrth annerch sesiwn arbennig o’r senedd ym Mharis.

128 o gyrchoedd yn Ffrainc

Yn Ffrainc, mae’r heddlu wedi cynnal 128 o gyrchoedd dros nos ac mae 23 o bobol wedi cael eu harestio ar ôl dod o hyd i 31 o arfau, gan gynnwys taniwr roced.

‘Bwystfilod seicopathig’

Mae Ysgrifennydd Cartref America, John Kerry wedi cyrraedd Paris i ddangos undod â Ffrainc ar ôl yr ymosodiadau.

Bydd yn cyfarfod â staff llysgenhadaeth America ac yn cynnal trafodaethau â swyddogion Ffrainc, gan gynnwys yr Arlywydd.

Fe ddywedodd cyn y trafodaethau, fod y sawl wnaeth ymosod ar Baris yn ‘fwystfilod seicopathig’.