George Osborne
Fe fydd yr arian sy’n cael ei roi i fynd i’r afael a throseddau seibr yn dyblu, mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi heddiw, wrth i ymdrechion i ddiogelu’r DU rhag y bygythiad gan IS ddwysau yn sgil ymosodiadau Paris.

Mae’r Canghellor wedi rhoi addewid y bydd £1.9 biliwn y flwyddyn yn cael ei roi erbyn 2020 pan fydd yn ymweld â chanolfan glustfeinio GCHQ yn Cheltenham, gan gynnwys Canolfan Seibr Genedlaethol newydd a fydd yn dod ag arbenigwyr y DU ynghyd.

Dywedodd y Canghellor ei fod yn briodol i gynyddu’r gwariant ar ddiogelwch oherwydd y bygythiad y gall IS gynnal ymosodiad seibr ar systemau cyfrifiadurol.

Ddoe, fe gyhoeddodd David Cameron y bydd 1,900 o swyddogion cudd-wybodaeth yn cael eu recriwtio ar draws MI5, MI6 a GCHQ yn sgil y bygythiad gan IS.

‘Dinistrio’ IS

Mae Arlywydd Ffrainc  Francois Hollande wedi dweud y bydd yn “dinistrio” IS ar ôl i’r grŵp eithafol hawlio cyfrifoldeb am y gyflafan ym Mharis nos Wener. Cafodd 129 o bobl eu lladd yn dilyn ymosodiadau gan ddynion arfog ar neuadd, bwytai a bariau yn y brifddinas.

Wrth i’r chwilio barhau am un o’r brawychwyr, Salah Abdeslam, 26, mae mesurau diogelwch wedi cael eu tynhau mewn lleoliadau a digwyddiadau amlwg yn y DU.

Fe fydd swyddogion arfog yn bresennol yn Stadiwm Wembley heno pan fydd tîm pêl-droed Ffrainc yn chwarae gem gyfeillgar yn erbyn Lloegr – mae disgwyl i Ddug Caergrawnt a Maer Llundain Boris Johnson fod yn y dorf.

Beirniadu Corbyn

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi galw ar y wlad i ddangos yr un penderfyniad a ddangosodd yn erbyn Hitler yn ystod y Blitz yn wyneb y bygythiad brawychol cynyddol.

Bu’n feirniadol hefyd o’r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn sydd wedi codi cwestiynau ynglŷn â’r ymosodiad i dargedu’r eithafwr IS, oedd yn cael ei adnabod fel Jihadi John, gan ofyn a oedd yn gyfreithlon. Mae hefyd wedi dweud unwaith eto ei fod yn gwrthwynebu caniatáu i’r DU ymuno mewn ymosodiadau o’r awyr yn Syria.

“Dydych chi ddim yn amddiffyn pobl drwy eistedd o gwmpas yn dymuno am fyd arall. Mae’n rhaid i chi weithredu yn y byd yma. Ac mae hynny’n golygu bod yn barod i ddefnyddio grym milwrol lle bo hynny’n angenrheidiol,” meddai’r Prif Weinidog.