Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Lysgennad Ffrainc i “fynegi, ar ran pobl Cymru, ein tristwch a’n ffieidd-dod tuag at yr erchyllterau ym Mharis nos Wener.”

Mewn datganiad dywedodd Carwyn Jones heddiw: “Rydym yn cynnig ein cefnogaeth ac yn mynegi undod â phobl Ffrainc. Rydym hefyd yn sefyll ochr yn ochr â nhw.

“Mae pobl Paris wedi talu pris mawr am arfer yr hawl i fyw’n rhydd. Mae rhyddid yn un o’r gwerthoedd rydyn ni’n eu rhannu ac mae’n rhaid i bawb ohonom ei amddiffyn – ym mhobman, drwy’r amser.”

Mae baneri adeiladau Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyhwfan ar hanner mast heddiw fel arwydd o barch ac roedd y Cynulliad hefyd wedi nodi’r munud o dawelwch am 11 y bore ma.

‘Parhau’n wyliadwrus’

Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi bod yn rhan o Gyfarfod Diogelwch Cobra Llywodraeth y DU wythnos ddiwethaf a bod angen i bobl barhau i fod yn wyliadwrus.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU ynghylch diogelwch.

“Wrth gwrs, mae’r Deyrnas Unedig ei hun wedi dioddef terfysgaeth ac rydym yn gwybod yn sicr bod nifer o ymosodiadau eraill wedi’u rhwystro yn y cam cynllunio.

“Yn y gorffennol, mae pobl wedi’u harestio yng Nghymru ac rydym yn gwybod bod unigolion wedi teithio oddi yma i Syria. Ni allwn fabwysiadu agwedd hunanfodlon am ein milltir sgwâr ein hunain.

“Dylai pobl barhau i fod yn effro a pheidio ag oedi cyn cysylltu â’r heddlu os oes ganddyn nhw amheuon neu os ydyn nhw am roi gwybod am unrhyw weithgarwch anarferol,” meddai Carwyn Jones.