Pobl yn ymgasglu yn Place de la Republique wedi'r ymosodiadau ym Mharis
Mae pobl Ffrainc wedi “uno” wedi’r ymosodiadau brawychol ym Mharis nos Wener, fel naethon nhw wedi’r ymosodiadau ar swyddfeydd Charlie Hebdo yn y brifddinas, yn ôl Cymraes fu yno dros y penwythnos.

Roedd Bethan Gwenllian, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, ym Mharis i aros gyda’i ffrind dros y penwythnos, pan gafodd ei dal yng nghanol y gyflafan nos Wener.

Ar ôl cyrraedd y brifddinas, fe aeth hi a’i ffrind i fwyty yng nghanol y ddinas, a oedd yn agos i un o’r lleoliadau gafodd eu targedu gan ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Cafodd 129 o bobol eu lladd yn y gyflafan a mwy na 350 eu hanafu.

‘Saethu pobl mewn bwyty rownd y gornel’

“Roedden ni’n bwyta ac am tua 10 o’r gloch fe wnaeth fy ffrind edrych ar ei ffôn ac roedd ganddi lwyth o negeseuon gan ei chariad, ei ffrindiau hi a’i boss, ac roeddan ni’n edrych o gwmpas y lle ac yn gweld pobol yn y bwyty yn dechrau codi ac yn edrych fel ‘sa nhw am adael,” meddai Bethan Gwenllian.

“Felly nes i stopio un ohonyn nhw a gofyn be oedd yn mynd ‘mlaen, a nath o ddeud bod ‘na rywun wedi mynd mewn i’r bwyty rownd y gornel a dechrau saethu pobol yna.”

Fe wnaeth perchennog y bwyty benderfynu ei bod hi’n fwy diogel i bawb aros yno, meddai.

Yn ddiweddarach naethon nhw benderfynu ei bod yn ddiogel i ddychwelyd yn ôl adref.

“Naethon ni redeg yn ôl ac ar y ffordd, roedden ni’n gallu clywed seirenau yn mynd heibio.

“Roedd y lle’n wag pan oedden ni ar ein ffordd nôl, pob restaurant wedi gwagio, pob man yn wag.

“Roedden ni jyst eisiau cyrraedd adre, cyrraedd rhywle saff,” meddai.

Mae Bethan Gwenllian bellach wedi dychwelyd i Gymru ond dywedodd bod y profiad wedi bod yn “ddychrynllyd”.

‘Pob man yn wag’

“Fe aethon ni allan wedyn ar y dydd Sadwrn ac roedd pob man yn wag, yn ddistaw iawn. Ac roedd pawb  yn edrych allan am ei gilydd, roedd e’n rhyfedd i weld pobol Paris yn cymryd sylw o bobol eraill.

“A bore ddoe, fe wnaethon ni fynd i roi blodau yn y Place de le République ac roedd y lle’n llawn o newyddiadurwyr a llwyth o heddlu. Roedd pobol yn tynnu lluniau, yn gosod blodau ac yn cynnau canhwyllau a’r heddlu yn cario gynnau.

“Oedd pob man wedi cau, y siopau, y parciau a’r amgueddfeydd – pob dim.”

‘Uno’

Ond pan ofynnwyd iddi beth fyddai dyfodol Paris wedi’r ymosodiadau diweddaraf, roedd Bethan Gwenllian yn fwy positif, gan gyfeirio at y ffordd mae’r ddinas wedi “uno” ar ôl llofruddiaethau staff y cylchgrawn Charlie Hebdo.

“Ar ôl be ddigwyddodd â Charlie Hebdo, roedd o’r un teimlad a be’ sy gan bobol rŵan, roedd pobol jyst eisiau dod at ei gilydd. Yn enwedig yn Ffrainc, maen nhw i gyd yn teimlo fel eu bod nhw wedi’u huno.”

Mwslemiaid Ffrainc

Ond beth am ddyfodol Mwslemiaid Ffrainc – ble mae hyn yn eu gadael nhw?

“Mae’n anodd. Dwi’n meddwl bod hyn wedi gwneud i bobol edrych ar grefydd mewn ffordd fwy negyddol, a dwi’n gwybod bod Mwslemiaid yn Marseille mewn sefyllfa lot gwaeth na Mwslemiaid Paris.

“Mae jyst yn mynd i helpu pleidiau fel y Front National (plaid asgell dde eithafol yn Ffrainc).”

Stori: Mared Ifan