Yr Arlywydd Francois Hollande
Mae’r Arlywydd Francois Hollande wedi dweud bod Ffrainc “mewn rhyfel” yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis nos Wener pan gafodd 129 o bobl eu lladd.
Wrth annerch sesiwn arbennig o’r Senedd ym Mhalas Versailles heddiw, dywedodd bod pobl o 19 o wledydd gwahanol wedi cael eu lladd yn yr ymosodiadau a’u bod wedi cael eu cynllunio yn Syria a’u trefnu yng Ngwlad Belg.
Fe fydd hefyd yn ymestyn y stad o argyfwng yn y wlad i dri mis.
Mae heddlu Ffrainc eisoes wedi cynnal cyrchoedd ar 168 o leoliadau gan feddiannu arfau yn cynnwys gynnau awtomatig Kalashnikov a lansiwr rocedi.
Fe gynhaliwyd munud o dawelwch ar draws Ewrop heddiw i gofio am y rheiny gafodd eu lladd yn y trychineb.
Codi cwestiynau
Yn y cyfamser mae heddlu Ffrainc wedi dweud eu bod yn credu mai ymladdwr IS o’r enw Abdelhamid Abaaoud o Wlad Belg oedd yn bennaf gyfrifol am yr ymosodiadau ym Mharis nos Wener.
Dywedodd swyddogion mai ef oedd prif arweinydd y cynllwyn a laddodd 129 o bobl ac anafu llawer mwy wrth i ffrwydradau gael eu tanio a phobl gael eu saethu mewn nifer o leoliadau.
Mae’n debyg bod Abdelhamid Abaaoud hefyd yn gysylltiedig â sawl ymgais arall i gynnal ymosodiadau brawychol, gan godi cwestiynau ynglŷn â pham nad oedd yr awdurdodau wedi ei ddal yn gynt.
Yn ôl adroddiadau mae Abdelhamid Abaaoud eisoes wedi recriwtio’i frawd bach 13 oed i fynd i ymladd dros IS yn Syria.
Adnabod eraill
Mae sylw hefyd bellach wedi troi at Molenbeek, ardal o Frwsel yng Ngwlad Belg ble cafodd Abdelhamid Abaaoud ei fagu.
Mae’n debyg bod un o’r hunanfomwyr yn yr ymosodiadau, Samy Amimour, yn hysbys i’r heddlu yn 2012 ar amheuaeth o frawychiaeth ond nad oedden nhw wedi parhau i’w wylio.
Yn ôl adroddiadau roedd awdurdodau yn Nhwrci hefyd wedi codi pryderon am Omar Ismail Mostefai wrth yr awdurdodau yn Ffrainc, ond wnaethon nhw ddim clywed unrhyw beth yn ôl nes ar ôl yr ymosodiadau dydd Gwener.
Mae’n debyg bod un arall o’r hunanfomwyr, Ahmad Al Mohammad, wedi cael ei ganfod â phasbort Syria arno a bod awdurdodau yng Ngwlad Groeg wedi nodi iddo deithio drwy’r wlad ym mis Hydref.