Grug Muse
Does dim rhyfedd bod gan fawr unrhyw un frwdfrydedd mawr tuag at yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Grug Muse …

Ewrop, Ewrop, Ewrop. Be ‘da ni am wneud efo Ewrop? Diolch i David Cameron, licio neu beidio, mi fyddwn ni’n siarad dipyn go lew am yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ystod y ddwy flynedd nesa’.

Neu ddim, achos does gan bobol Ewrop ddim diddordeb yn yr UE, yn ôl pob tebyg. Sbïwch ar ganrannau pleidleisio’r etholiad diwethaf yn 2014 – 42.61% o etholwyr y cyfandir yn rhoi eu pleidlais, 13.05% yn Slofacia a 35.6% ym Mhrydain – mewn difri calon!

Mae ‘na ddwsinau o esboniadau wedi cael eu cynnig dros y diffyg diddordeb hwn gan bwysigion Ewropeaidd yn ffugio syndod at agwedd lugoer y demos Ewropeaidd at egwyddorion democratiaeth, a digon o draethodau israddedig wedi eu sgwennu i lenwi castell Caernarfon ddwywaith a mwy.

Mae’n ymddangos nad oes gan bobol Ewrop unrhyw ddiddordeb ym mhwy maen nhw’n eu hanfon i Frwsel. A pham ddylen nhw, os mai sefydliad sy’n gwasanaethu buddiannau llywodraethau yn hytrach na’r bobol ydi’r UE?

Hybu democratiaeth?

Dewch efo fi ar danjant sydyn i hydref 2015, lle mae senedd Barcelona yn derbyn y mandad cryfaf maen nhw fyth yn debygol o’i derbyn o blaid datgan annibyniaeth.

Ymateb yr Undeb Ewropeaidd yw cefnogi safiad gwladwriaeth Sbaen, gan wrthod rhoi atebion pendant a deallus i gwestiynau ynglŷn â dyfodol Catalwnia annibynnol o fewn neu du allan i’r UE.

Ar hyd y blynyddoedd, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi honni bod yn fudiad sy’n hybu democratiaeth – onid dyna un o’r rhesymau pam y derbyniwyd economïau gwantan a gwybyddus anaddas cyn-unbenaethau fel Sbaen, Groeg a Phortiwgal i’r gymuned?

Onid dyna un o amodau aelodaeth gwledydd yr hen Iwgoslafia, ac un o’r dadleuon yn erbyn derbyn Twrci i’r undeb?

Ond dyma ni rŵan, yn achos ei dinasyddion ei hun yn gweld yr UE yn chwarae gemau gwirion, ac yn ceisio bwlio ymgyrchwyr yng Nghatalwnia a’r Alban i’w hatal rhag gweithredu mewn ffordd sy’n mynd yn groes i ddymuniadau’r Wladwriaeth ganolog.

Dyna achos cyn-arlywydd y Comisiwn Jose Manuel Barroso yn ymyrryd yn etholiad yr Alban, a’r arlywydd presennol, Jean-Claude Juncker, yn rhoi ateb amwys i’r cwestiwn a fyddai Ewrop yn cydnabod datganiad unochrog o annibyniaeth gan Gatalwnia oedd yn cynnwys gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y fersiynau Saesneg a Sbaeneg.

Sbaen yn atal

Mae’r UE wedi awgrymu i bob pwrpas petasai bobl Catalwnia yn gweithredu yn ôl egwyddorion democrataidd fe fydden nhw yn colli eu dinasyddiaeth Ewropeaidd, ac yn cael eu halltudio o’r gymuned economaidd Ewropeaidd, ac wrth gwrs yr Ewro.

Gyda Sbaen yn rheoli nacâd dros aelodaeth i’r Undeb, mae posibilrwydd y byddai’r broses o ail-ymaelodi yn hirwyntog a chymhleth (er y byddai yn erbyn buddion Sbaen i atal Catalwnia rhag ymaelodi a rhwystro cysylltiadau economaidd efo economi gryfaf y rhanbarth).

Yn hyn oll mae organau’r UE wedi cael eu defnyddio at fudd gwladwriaeth Sbaen, yn hytrach na phobl Catalwnia.

Rhaid cydnabod nad yw mandad Catalwnia heb fod yn broblematig – mae’r ardaloedd gwledig, sydd gryfaf o blaid annibyniaeth, wedi eu gorgynrychioli o fewn system etholiadol y wlad.

Ac er bod gan y pleidiau o blaid annibyniaeth fwyafrif o’r grym (h.y. seddi yn y senedd), maen nhw drwch blewyn yn brin o gael mwyafrif o’r bleidlais.

Dyma’r broblem ynglŷn â chynnal refferendwm de-facto yn hytrach na refferendwm go iawn – doedd hon erioed yn etholiad ia/na gan fod un platfform (Catalwnia Sí que es Pot) heb ddatgan yn swyddogol safiad o blaid nac yn erbyn annibyniaeth cyn yr etholiad, gan gloffi’r holl ganlyniad.

Ond mater i bobol Catalwnia i’w datrys yw hynny, a hynny heb ymyrraeth bleidiol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Y bobl yn erbyn y wladwriaeth

Ta waeth am Gatalwnia a’r Alban, enghraifft yn unig oedd yr hanesyn yna o wendid sylfaenol yn strwythur yr UE.

Waeth be mae David a’i Dorïaid yn ei ddweud am wanhau sofraniaeth, sefydliad sy’n cryfhau grym llywodraethau a gwladwriaethau ydi’r Undeb Ewropeaidd wrth ei graidd.

Gweinidogion a chynrychiolwyr wedi eu penodi gan y llywodraeth yw aelodau dwy allan o dair cangen lywodraethol y sefydliad. Y senedd Ewropeaidd yw’r unig gangen sydd wedi ei hethol yn uniongyrchol.

A does ‘na ddim byd yn bod ar hynny os ydi’r system yn arwain at gynyddu buddiannau pobl Ewrop. Wedi’r cyfan, mae’r llywodraethau eu hunain yn etholedig yn tydi?

Mae problemau yn datblygu pan fod buddiannau’r bobol yn ymwahanu oddi wrth fuddiannau’r Wladwriaeth, fel sydd wedi digwydd yng Nghatalwnia a’r Alban yn ddiweddar, a’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei defnyddio fel arf gan y llywodraethau.

Llais Cymru

Mae ffurf gwladwriaethau Ewrop wedi newid yn sylweddol ers dyddiau Monnet a Schubert yn y 50au, ac mae’r ffurfiau hynny’n amrywio o wlad i wlad.

Mae strwythurau Ewrop wedi eu cynllunio ar gyfer gwladwriaethau lle mae grym wedi’i ganoli, brid o wladwriaeth sy’n prinhau tros Ewrop.

Mae grym wedi ei rannu ar hyd nifer o lefelau gwahanol o lywodraeth, o gynghorau sir i Länders, mewn systemau ffederal fel yr Almaen, rhanbarthau ymreolaethol fel Sbaen, neu ddatganoli anghymesur fel ym Mhrydain.

Mae’r systemau yma yn ffitio fel trionglau mewn i dyllau sgwâr i strwythurau Ewrop, a’r unig rai sy’n elwa ydi’r llywodraethau canolog eu hunain.

Cymerwch esiampl Cymru – er bod materion fel amaeth ac iechyd wedi’u datganoli, gweinidogion llywodraeth San Steffan sy’n cael sedd yng Nghyngor y Gweinidogion ar y materion hyn, gyda dim gorfodaeth arnyn nhw i ymgynghori gyda gweinidogion y gwledydd datganoledig.

Blychau gwag

Ateb Ewrop i’r broblem strwythurol hon ydi Pwyllgor y Rhanbarthau, corff ymgynghorol ar gyfer llywodraethau is-lywodraethol, lle mae cynrychiolwyr o Landtag Bavaria a’r Cynulliad yn rhannu bwrdd efo cynghorwyr lleol.

Mae’r gwahaniaeth ym mandad a grym y gwahanol gynrychiolwyr yn atal Pwyllgor y Rhanbarthau rhag bod yn fforwm dylanwadol. Ac wrth gwrs, does gan y corff ddim grym llywodraethol o fath yn y byd.

Mae gan Gatalwnia fandad cryfach i ddatgan annibyniaeth nac sydd gan yr undeb Ewropeaidd dros wneud paned o de.

A thra bod Ewrop yn parhau i fod yn organ at fydd y llywodraethau, i gael ei defnyddio yn erbyn pobl Ewrop, peidied neb â synnu fod y blychau pleidleisio yn parhau yn wag.

Mae Grug Muse yn gyn-fyfyrwraig Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham a bellach yn byw ym Madrid.