Salah Abdeslam mewn llun gan heddlu Ffrainc
Mae adroddiadau bod yr heddlu yng Ngwlad Belg wedi arestio Salah Abdeslam sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiadau ym Mharis nos Wener.

Credir ei fod wedi ei arestio yn ardal Molenbeek yng Ngwlad Belg yn dilyn cyrch gan heddlu arfog, ond does dim cadarnhad swyddogol hyd yn hyn.

Roedd ei frawd, Ibrahim Abdeslam, 31,  wedi cael ei enwi gan heddlu Ffrainc fel un o’r hunan-fomwyr oedd wedi ymosod ar un o’r safleoedd gafodd eu targedu nos Wener.

Honnir bod Salah Abdeslam wedi llogi car a gafodd ei ddefnyddio gan y grŵp a ymosododd ar neuadd Bataclan ym Mharis.

Credir ei fod wedi ei fagu yng Ngwlad Belg ond mae heddlu Ffrainc yn dweud ei fod yn ddinesydd o Ffrainc.

Yn yr oriau wedi’r ymosodiadau ym Mharis, roedd heddlu Ffrainc wedi stopio car Salah Abdeslam a dau ddyn arall yn agos i’r ffin gyda Gwlad Belg ond fe gawson nhw ganiatâd i barhau gyda’u taith gan nad oedd eu henwau ar restr o bobl oedd yn cael eu hamau ar y pryd.

Cyrchoedd

Dywed heddlu Ffrainc bod cyrchoedd wedi cael eu cynnal mewn 168 o safleoedd ar draws Ffrainc dros nos. Mae 104 wedi cael eu harestio yn ystod y 48 awr ddiweddaf a nifer o arfau, gan gynnwys gynnau Kalashnikov wedi’u meddiannu gan yr heddlu.

Wrth i’r ymdrech gwrthderfysgaeth barhau, mae’r awdurdodau wedi adnabod y dyn sy’n cael ei amau o gynllwynio’r ymosodiadau ym Mharis.

Credir bod Abdelhamid Abaaoud o Wlad Belg yn un o’r ffigurau blaenllaw yn yr ymosodiadau.

Mae hefyd wedi’i gysylltu â chynllwyn i ymosod ar drên ac eglwys yn ardal Paris, meddai swyddog.

Yn y cyfamser mae gwledydd ar draws Ewrop wedi bod yn nodi munud o dawelwch am 11 y bore ma i gofio’r 129 o bobl fu farw yn yr ymosodiadau ym Mharis nos Wener.