David Cameron
Mae arweinwyr byd wedi cytuno ar “gamau pwysig” i fynd i’r afael a’r bygythiad gan grwpiau brawychol, yn sgil ymosodiadau Paris, meddai David Cameron.

Mae’r mesurau’n cynnwys atal ariannu grwpiau brawychol, mynd i’r afael ag ideolegau a phropaganda eithafol, yn ogystal â chryfhau diogelwch mewn meysydd awyr.

Mewn cynhadledd newyddion yn uwch gynhadledd y G20 yn Nhwrci, dywedodd y Prif Weinidog bod yr erchyllterau ym mhrifddinas Ffrainc wedi “tanlinellu’r bygythiad rydym yn ei wynebu i’n gwerthoedd a’n ffordd o fyw.”

Mae’r gwledydd wedi cytuno ar fesurau i ddiogelu rhag “y bygythiad gan ymladdwyr tramor, drwy rannu cudd-wybodaeth a’u hatal rhag teithio.”

Yn gynharach fe gyhoeddodd David Cameron bod asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth yn y DU wedi atal saith cynllwyn i gynnal ymosodiadau dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd David Cameron ei fod wedi defnyddio trafodaethau gydag Arlywydd Rwsia Vladimir Putin i’w annog i gydweithio gyda’r gymuned ryngwladol a chefnogi newidiadau yn Syria a fyddai’n disodli’r Arlywydd Bashar Assad.

Fe fydd Prydain yn cynnal cynhadledd yn Llundain y flwyddyn nesaf, meddai, er mwyn codi “arian sylweddol” i fynd i’r afael a’r argyfwng yn Syria.