Milwyr ger y ffin rhwng Twrci a Syria (Llun: PA)
Mae pedwar o blismyn wedi cael eu hanafu yn dilyn ffrwydrad ger un o ganolfannau’r Wladwriaeth Islamaidd yn Nhwrci.

Fe fydd Twrci dan y chwyddwydr yn ystod y dyddiau nesaf wrth i arweinwyr y G20 ymgynull yno ar gyfer trafodaethau.

Dywed asiantaeth Anadolu fod yr heddlu wedi mynd i mewn i fflat pumed llawr yn ninas Gaziantep nos Sadwrn gan eu bod yn credu bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan aelodau’r Wladwriaeth Islamaidd.

Mae’r ddinas yn agos at y ffin â Syria.

Dydy hi ddim yn glir eto a gafodd unrhyw un ei arestio.