Mae Ffrancwr 41 oed wedi cael ei gyhuddo o fod ag arfau yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad ym maes awyr Gatwick fore Sadwrn.

Roedd gan Jerome Chauris o Vendome gyllell a dryll yn ei feddiant ger Terfynfa’r Gogledd, ac fe achosodd y digwyddiad gryn oedi i deithwyr.

Mae disgwyl i Chauris ymddangos gerbron ynadon yn Crawley ddydd Llun.

Roedd swyddogion wedi cynnal ffrwydrad yn y maes awyr, a chafodd teithwyr eu cludo i westai cyfagos.

Roedd Terfynfa’r Gogledd ynghau am hyd at chwech awr.