Bataclan Paris (Llun: PA)
Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi cyhoeddi enw un o’r brawychwyr oedd yn gyfrifol am y gyflafan ym Mharis nos Wener.

Mae aelodau teulu Ismael Mostefai, 29, yn cael eu holi yn y ddalfa – a’r rheiny’n cynnwys ei dad a’i frawd.

Daeth cadarnhad o gefndir Mostefai gan Faer ardal Chartres.

Dywedodd yr erlynydd fod Mostefai wedi cael ei adnabod o olion ei fysedd.

Cafodd o leiaf 129 o bobol eu lladd mewn nifer o leoliadau ar draws y ddinas, ac mae lle i gredu bod saith neu wyth o frawychwyr yn gyfrifol am y saethu a’r ffrwydradau.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb am y gyflafan.

Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande y byddai ei lywodraeth yn ymateb yn “ddi-drugaredd”.

Y manylion mor belled

Wrth i’r erlynydd ddechrau paratoi achos, ychydig iawn o fanylion sydd wedi cael eu cyhoeddi hyd yma.

Ond fe ddywedodd fod tri grŵp o frawychwyr, gan gynnwys saith hunan-fomiwr, yn gyfrifol.

Cafwyd hyd i basbort un o’r brawychwyr, ac mae lle i gredu ei fod yn hanu o Syria a’i fod wedi croesi i Ffrainc drwy Wlad Groeg fis diwethaf.

Hyd yma, mae 129 o bobol wedi marw a 352 o bobol wedi cael eu hanafu – mae 99 yn dal mewn cyflwr difrifol oherwydd eu hanafiadau.

Mae lle i gredu bod y rhai oedd yn gyfrifol am gyflafan y Bataclan, y neuadd gerddoriaeth lle bu farw 89 o bobol, wedi sôn am Syria ac Irac wrth iddyn nhw saethu at y dorf.

Teyrngedau

Ymgasglodd cannoedd o bobol am wylnos ger y Place de la Republique nos Sadwrn yn yr union fan lle cafwyd protestiadau yn dilyn ymosodiadau ar swyddfeydd y papur newydd dychanol Charlie Hebdo y llynedd.

Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande wedi cyhoeddi tridiau o alaru yn Ffrainc, ac ni fydd yn mynychu cyfarfod o’r G20 yn Nhwrci.

Mae lefel diogelwch Ffrainc ar ei huchaf ar hyn o bryd ac mae nifer o brif atyniadau’r ddinas, gan gynnwys Disneyland ac amgueddfa’r Louvre yn dal ynghau am y tro.