Mae pedwar o bobol wedi’u lladd, wedi i awyren ysgafn blymio i’r ddaear yng Ngwlad yr Haf.

Fe gafodd dau ddyn a dwy ddynes eu lladd pan ddaeth yr awyren chwe sedd i’r ddaear ger Churchinford i’r de o dre’ Taunton toc cyn 11.45yb heddiw.

Roedd yr awyren ar ei ffordd o Surrey i faes awyr Dunkeswell yn nwyrain Dyfnaint.