Mae undeb sy’n gweithredu dros staff cwmni awyrennau yn yr Almaen wedi galw ar eu haelodau i gynnal streic a fydd yn effeithio ar deithiau’r cwmni Lufthansa.

Mae Lufthansa wedi cadarnhau y bydd pob un o’i deithiau o’r Almaen yn cael eu heffeithio rhwng 4yb ddydd Mercher a chanol nos dydd Gwener (amser lleol) wrth i’r gweithwyr gynnal streic.

Daw’r cyhoeddiad fel rhan o’r ddadl gynyddol rhwng undeb yr UFO a’r cwmni awyrennau am daliadau.

Mae’r undeb yn honni fod y cwmni yn ceisio “torri costau,” ac maen nhw am sicrhau y bydd eu 19,000 o aelodau yn cael eu taliadau pe baen nhw’n ymddeol yn gynnar.

Fe wnaeth yr undeb wrthod cynnig diweddaraf y cwmni awyrennau ddydd Llun a oedd wedi cynnig gwelliant “sylfaenol” iddyn nhw.

Ni fydd teithiau sy’n cael eu gweithredu gan gwmnïau cynorthwyol i Lufthansa yn cael eu heffeithio, gan gynnwys Germanwings, na chwmni awyrennau’r Swistir ac Awstria.