Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur
Mae disgwyl i Jeremy Corbyn fynychu cyfarfod y Cyfrin Gyngor gyda’r Frenhines yfory, lle bydd disgwyl iddo dyngu llw fel aelod o’r corff seremonïol hynafol.

Fe wrthododd arweinydd y Blaid Lafur, sydd wedi bod yn weriniaethwr trwy’i oes, y cyfle i fynychu cyfarfod y cyngor fis diwethaf, oherwydd “ymrwymiadau blaenorol.”

Fe fydd disgwyl iddo gusanu llaw’r Frenhines yn unol â thraddodiad y seremoni ym mhalas Buckingham.

Mae rhywfaint o ddadlau wedi bod ynghylch a fydd rhaid i Jeremy Corbyn benlinio o flaen y Frenhines yfory ai peidio.

Fe gafodd Jeremy Corbyn ei wylio’n ofalus wrth iddo osod torch ar Sul y Cofio dros y penwythnos.

Roedd rhai yn credu nad oedd wedi ymgrymu ddigon ond eraill wedi  ei ganmol am aros ar ôl i siarad â’r cyn-filwyr.

Cyfrin Gyngor

Mae arweinydd yr wrthblaid fel arfer yn cael gwahoddiad i fod yn aelod o’r Cyfrin Gyngor er mwyn derbyn sesiynau briffio cyfrinachol gan y gwasanaethau diogelwch.

Beth bynnag fydd yn digwydd yfory, fe fydd yn rhaid iddo aros yn breifat gyda Jeremy Corbyn yn addunedu i beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

Caiff cyfarfodydd y Cyfrin Gyngor eu cynnal fel arfer unwaith y mis. Mae tua 500 o gynghorwyr cyfrin, ond nid oes disgwyl i’r holl aelodau fynychu’r cyfarfodydd. Fel arfer, fe fydd y Frenhines, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, tri o weinidogion ac unrhyw un sy’n tyngu llw yn ei fynychu.