Yr Arlywydd Vladimir Putin
Nid oes sail i honiadau bod athletwyr o Rwsia wedi cymryd cyffuriau, yn ôl llefarydd ar ran yr Arlywydd Vladimir Putin.

Mewn cynhadledd newyddion heddiw, dywedodd Dmitry Peskov bod yn rhaid i gyhuddiadau o’r fath fod yn seiliedig ar dystiolaeth.

“Os nad oes yna dystiolaeth, mae’n anodd ystyried y cyhuddiadau, sy’n ymddangos yn ddi-sail,” meddai.

Mae’r Gweinidog Chwaraeon, Vitaly Mutko, sydd wedi cael ei gysylltu gyda’r cyhuddiadau a wnaed gan Asiantaeth Wrthgyffuriau Chwaraeon y Byd (WADA), wedi bygwth atal cymorth ariannol y llywodraeth ar gyfer gwaith gwrthgyffuriau.

Mae Vitaly Mutko wedi dadlau nad oes “tystiolaeth ddifrifol” bod yr awdurdodau wedi bod ynghlwm a’r twyll a bod y ffocws ar Rwsia yn annheg.

Yn y cyfamser mae WADA wedi atal achrediad y labordy fu’n cynnal profion cyffuriau ym Moscow.

Roedd comisiwn annibynnol a sefydlwyd gan WADA wedi datgelu bod 1,417 o samplau wedi cael eu dinistrio’n fwriadol yn dilyn gorchymyn gan gyfarwyddwr y labordy.

Mae Rwsia yn wynebu cael ei hatal rhag cystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016 yn dilyn y cyhuddiadau.

Mae llywydd y Gymdeithas Ryngwladol Ffederasiwn Athletau (IAAF), Sebastian Coe, wedi rhoi tan ddiwedd yr wythnos i Rwsia ymateb i’r honiadau yn adroddiad WADA.