Jon Styler Llun: Week In Week Out
Mae honiadau newydd ynghylch cyn-brifathro o Gasnewydd yn awgrymu y gallai fod ymysg y pedoffiliaid sydd wedi troseddu amlaf yn hanes diweddar Cymru.

Roedd Jon Styler wedi lladd ei hun yn ystod ymchwiliad gan Heddlu Gwent yn 2007 i honiadau yn ei erbyn o gam-drin plant yn rhywiol. Bu’n gweithio fel prifathro yn ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru ym Malpas ger Casnewydd.

Ar Week In Week Out BBC Cymru heno, fe fydd y rhaglen yn tynnu sylw at wybodaeth nag ystyriwyd fel rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol.

Wrth siarad â’r rhaglen, fe ddywedodd y cyfreithiwr Andrew Collingbourne sy’n cynrychioli sawl un o’r dioddefwyr, y gallai’r cyn-brifathro fod wedi targedu “mwy na 100 o fechgyn.”

“Rwy’n credu ein bod ni wedi cyffwrdd â’r wyneb yn unig, gallai fod mwy na 100 o ddioddefwyr,” ychwanegodd.

Arolwg mewnol

Mae’r rhaglen wedi darganfod nad oedd ditectifs a weithiai ar yr achos yn 2007 wedi ystyried gwybodaeth a gyflwynwyd iddyn nhw ddwy flynedd ynghynt.

Yn 2005, fe wnaed honiad fod Jon Styler wedi cam-drin bechgyn eraill yn yr un ysgol yng Nghasnewydd.

Fe ddywedodd un dyn wrth raglen Week In Week Out ei fod wedi mynd at Heddlu Gwent yn 2005 yn honni ei fod yntau a’i frawd wedi’u targedu gan Jon Styler.

Ond, fe benderfynon nhw beidio â pharhau â’r mater fel cwyn swyddogol, oherwydd redden nhw’n ofni effaith hynny ar eu gyrfaoedd a’u teulu.

O ganlyniad, mae Heddlu Gwent wedi lansio arolwg mewnol i archwilio pam na godwyd yr honiadau hynny yn ystod eu hymchwiliad yn 2007.

Fe ddywedodd Comisiynydd Trosedd Heddlu Gwent, Ian Johnson, y gallai camgymeriadau fod wedi’u gwneud yn y gorffennol ond bod “gwersi wedi’u dysgu.”

Am hynny, maen nhw’n galw ar unrhyw ddioddefwyr sydd ag achosion hanesyddol o gam-drin i ddod ymlaen.

“Bydd rhan o’r ymchwiliad mewnol nawr yn edrych ar y posibilrwydd y gallai fod achosion eraill,” ychwanegodd.

Cwmpasu 25 mlynedd

Mae’r cyhuddiadau sydd wedi’u gwneud yn erbyn y cyn-brifathro Jon Styler yn cwmpasu 25 mlynedd.

Fel rhan o’r rhaglen, fe fydd y dirprwy brifathro yn ysgol Malpas, Lyndon Millinship yn siarad yn gyhoeddus am y mater.

Fe ddywedodd ei fod wedi mynegi ei bryderon am ymddygiad Jon Styler yn ystod yr 1970au hwyr wrth Gyngor Sir Gwent a Llywodraethwyr yr ysgol.

Ond, fe barhaodd Jon Styler i ddysgu, a dywedodd Lyndon Millinship ei fod yn “siomedig na wnaeth neb mewn awdurdod siarad â’r plant bryd hynny.”

Fe ychwanegodd y byddai wedi bod yn fodlon siarad â’r heddlu yn 2005 neu 2007, pe baen nhw wedi cysylltu ag e.

Fe fydd rhaglen Week In Week Out: My Teacher the Paedophile yn cael ei darlledu heno ar BBC One am 10.35yh.